Amdanom Ni

Gall gwreiddiau Brodyr Gleision Caerdydd eu dilyn yn ol i dymor 2014-15. Roedd yn dymor anodd i’r clwb, gyda’r Gleision yn nodi sawl colled ym Mharc yr Arfau. Gall cefnogaeth ac annogaeth ei clywed; cefnogwyr ffyddlon yn taro’r byrddau hysbysebu a llafarganu gobaith a hyder tua’r chwaraewyr. Sylweddolodd y cefnogwy hyn y gallent gyrru cefnogaeth y clwb drwy cymhelliad lleisiol a daethon at ei gilydd yn y Teras De, ar ochr y Taf o’r stadiwm.

Yma, genwyd calon newydd Gleision Caerdydd. Ers 2015, mae’r drwm wedi taranu dros y Gleision ar dyddiau gemau, cartref neu I ffwrdd. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae sawl moment cofiadwy yn hanes Gleision Caerdydd wedi’i rhannu gan y grwp. Sefydliwyd y menter “Yn fwy na drwm” yn olynnol i hyn.

Genir y menter hon o’r syniad fod yna angen yn tyfu am gefnogaeth ac annogaeth ar ddiwrnod gem ym Mharc yr Arfau. Teimlai Brodyr Gleision Caerdydd gall gefnogaeth ar ddiwrnod gem fod yn rym i yrru’r tim ymlaen. Sain ac angerdd sydd ddim yn bresenol yn y rhanbarthau eraill ar ddyddiau gem yng Nghymru, neu hyd yn oed clybiau yn Lloegr. Roedd rygbi yng Nghymru yn ansicr, a bod dyfodol y rhanbarthau yn ansicr o hyd. Ofnir fod cenhedlaeth nesaf o gefnogwyr angerddol rygbi yn mynd i golli allan ar hud Rygbi Cymreig ym Mharc yr Arfau.

Penderfynodd Brodyr Gleision Caerdydd i gymryd camau i geisio sicrhau goroesiad ein treftadaeth mewn unrhyw ffurf posib, a penderfynodd y Brodyr i gymryd dull gweithredu mwy ffurfiol. Daw Brodyr Gleision Caerdydd at ei gilydd unwaith eto i ffurfioli pwyllgor a aethon i’r Clwb o safbwynt fwy ffurfiol, yn ymrwymo I wneud popeth ag y gallent i gefnogi dyfodol ein Gleision Caerdydd ni.

Wrth symud ymlaen, bu Brodyr Gleision Caerdydd yn parhau i ddatblygu cysylltiadau da gyda’r rhanbarth i gynnig awgrymiadau, darparu cymorth rhagweithiol, a cyngor ar datblygu Parc yr Arfau a’r gymuned rygbi ehangach. Gwnai Brodyr Gleision Caerdydd weithio ynghyd a Sylfaen Gleision Caerdydd er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn y rhanbarth yn ymwybodol o’r sgiliau personol gallent haeddu drwy cymryd rhan mewn rygbi, y buddion ac i’w annog i fynychu gemau ym Mharc yr Arfau. Bydd Brodyr Gleision Caerdydd yn creu partneriaeth gyda sefydliadau allanol i hyrwyddo materion yn y cymdeithas fel Iechyd Meddwl a Digartrefedd, ynghyd a gweithio gyda elusennau yn y rhanbarth i dynnu sylw at ei gwaith ac i godi arian angenrheidiol.

Mae aelodaeth i Frodyr Gleision Caerdydd ar agor i bob cefnogwr Gleision Caerdydd, beth bynnag yw eich cefndir. Gallwch archebu aelodaeth o’r wefan hon.
Fel arall, beth am ddod i’n gweld ni ar ddiwrnod gem yn Lolfa Brodyr Gleision Caerdydd yn yr Teras De yn Niwedd y Taf.