Ymwelwy i Barc yr Arfau Caerdydd

Mae Parc yr Arfau Caerdydd yn gartref i Gleision Caerdydd ac i Glwb Rygbi Caerdydd. Mae’r stadiwm wedi’i leoli yng nghanol dref Caerdydd a drws nesa’ i’r Stadiwn Genedlaethol.

Ers 1870, mae gemau rygbi wedi’i chwarae ym Mharc yr Arfau Caerdydd. Yn 1956, gwestywr Gemau’r Gymanwlad, ac ym 1966 gwestywr stadiwm y gem gyntaf o dan oleuadau. Yn 2013, gosodwyd cae artiffisial yn y stadiwm i helpu datblygiad cymunedol.

Mae Gwledydd Enwog a Arwyr Undeb Rygbi wedi rhedeg allan ym Mharc yr Arfau dros y blynyddoedd. Nawr fydd eich cyfle i ddilyn yn ei holion traed, tra’ch bod chi’n ymweld a’r lleoliad Undeb Rygbi.

Y Lleoliad

Ni all Barc yr Arfau gael ei lleoli yn well i ymwelwyr i Gaerdydd. Mae yng nghanol y ddinas ac yn agos i bob math o aneddiadau. Fe allwch gyrraedd Caerdydd yn hawdd o bob brif ddinas yn y Deyrnas Unedig. Mae o tua 120 o funudau o Lundain, 60 munud o Gaerfaddon, 145 munud o Gaerlyr a 210 munud o Lerpwl.

Sut I ffeindio Parc yr Arfau Caerdydd

Mae lleoliad Parc yr Arfau Caerdydd yn hygyrch i ymwelwyr i Gaerdydd. Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd drwy Trafnidiaeth Cyhoeddud. Ni does parcio ar gael ym Mharc yr Afrau ar ddiwrnod gem.

Tren

Mae gorsaf trenau Caerdydd Canolog ond 5 munud I ffwrdd wrth gerdded o Barc yr Arfau. Ewch allan o’r gorsaf trwy’r prif mynediad a cerddwch syth ymlaen. O’ch blaenau, byddwch yn gweld adeilad y BBC a caffi Pret-a-manger. Ewch heibio’r rhain a gwelwch Tesco Express, Boots a Greggs ar eich ochr chwith, cyn I chi gyrraedd heol. Croeswch yr heol ac ewch i’r dde, byddwch yn sylwi ar Swyddfa Recriwtio’r Lluoedd Arfog ar y chwith a tafarn O’Neils ar y dde. Ewch i’r chwith yma, i lawr Stryd Westgate. Dilynwch yr heol a byddwch yn mynd heibio nifer o safleodd bws, siop Undeb Rygbi Cymru (WRU), a mynedfeydd 2 a 3 i stadiwm y Dywysogaeth. 150 llath i fyny ohonynt, bydd yr ail fynedfa. (Mynedfa’r Angel)

Awgrym Cyfleus: Gwnewch yn siwr vod ganddych tocyn tren dilys cyn i chi deithio, gan fod rhwystrau mewn gweithred yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd methu i ymddangod tocyn dilys yn gallu arwain at dirwy mawr.

Car

Dewch oddi wrth yr M4 ar gyffordd 33. Dilynwch gysylltheol Caerdydd (A4232) a gadewch y briffordd ar yr ail cyffordd, wedi’i arwyddo am Stadiwm Dinas Caerdydd a Cefnogwyr Oddi Cartref. Wrth gyrraedd y cylchfan, ewch i’r lon chwith heibio’r maes athletau ar y chwith, gyda’r parc manwerthu a stadiwm Dinas Caerdydd ar eich dde. Wrth gyrraedd y goleuadau traffig nesaf, ewch syth ymlaen, ewch o dan y pont rheilffordd a heibio bwyty Tseiniaidd ar eich ochr dde. Ger y goleuadau nesaf, trowch i’r dde ac ymunwch a’r A4161. Ger y goleuadau nesaf, yn gyfagos i siop mawr arlwyaeth, ewch syth ymlaen tuag at set arall o oleuadau. Yma, gwelwch llifoleuadau Parc yr Arfau yn y pellter. Ewch yn syth ger y goleuadau nesaf a dros y bont, arhoswch yn y lon dde. Yma, gwelwch gwesty’r ‘Holiday Inn’ ar eich ochr dde, a Gwesty’r Angel (Angel Hotel) yn syth o’ch blaenau. Ewch i’r dde fan hyn, a trowch i’r dde i mewn i faes parcio Parc yr Arfau.
Awgrym Cyfleus: Y cod post ar gyfer Parc yr Arfau yw CF10 1JA. Peidiwch a gyrru mewn i’r ddinas os ydy’n bosib. Gall traffig fod yn drwm, a gall eich siwrne gymryd yn hirach na meddyliwch.

Parcio
Nid yw parcio ar gael ym Mharc yr Arfau ar dyddiau gem. Mae yna ddau maes parcio ‘NCP’ yn agos iawn at Barc yr Arfau (Stadiwm Caerdydd a Westgate Street) ond, gall y meysydd parcio hyn fod yn ddrud ac yn frysur ar ddiwrnod gem. Am fwy o wybodaeth am y meysydd parcio, ewch i https://www.ncp.co.uk/parking-solutions/cities/cardiff/.
Mae yna feysydd parcio eraill o fewn y ddinas ac yn cael ei ddefnyddio gan siopwyr yn briodol. Mae maes parcio fwyaf y ddinas o fewn Canolfan Siopa Dewi Sant. Mae gan y maes parcio hwn 2,000 o safleodd parcio a mae rhan o’r drydedd llawr am ddefnydd unigolion anabl. Am fwy o wybodaeth ar barcio yma, ewch i https://stdavidscardiff.com/car-park

wgrym Cyfleus: Ceisiwch osgoi parcio yng nghanol y ddinas rhwng 1af Rhagfyr a 5ed Ionawr bob blwyddyn. Mae nifer o’r siopao yng nghanol y ddinas yn gweithredu gwerthiannau cyn ag ar ol y Nadolig. Byddwch yn cael trafferth ceisio ffeindio safle parcio.

Bws
Mae’r mwyafrif o wasanaethay bws yng Nghaerdydd yn cael ei gweithredu gan Bysiau Caerdydd. Nid oes gan canol y ddinas orsaf bysiau, a fel a ganlyn, mae bysiau yn rhedeg o safleoedd gwahanol ar draws y ddinas. Mae’r map dilynnol yn dangos lle mae bysiau yn gweithredu ohonynt ac i ble: https://images.cardiffbus.com/2020-01/cardiff%20city%20centre%20dep%20list%20jan20.pdf
Mae Parc yr Arfau Caerdydd wedi’i leoli ar ‘Westgate Street’, mae yna ddigonedd o safleoedd bws ar y stryd hyn ac ar ei llwybr taith. I ddarganfod pa bws fydd yn fwy cyfleus i chi, ewch i https://www.cardiffbus.com/plan-a-journey.
Awgrym Cyfleus: Os ydych yn cymryd nifer o siwrneoedd ar bws mewn un diwrnod, efallai fydd yn rhatach i chi archebu ‘tocyn dydd’. Gallwch brynnu’r rhain oddi wrth y gyrrwr ar y bws.

Awyren
Maes Awyr Caerdydd: Y Maes Awyr agosach i Barc yr Arfau yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae gan y Maes Awyr hyn gysylltiadau gyda nifer o ddinesydd ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a hyd yn oed mor bell a Qatar. Os byddwch yn hedfan i fewn i Gaerdydd, y ffordd rhatach i gyrraedd canol y ddinas fydd ar bws. Mae’r bws T9 yn gadael Maes Awyr Caerdydd bob 20 munud ac yn cymryd tua 60 munud i gyrraedd canol y ddinas. Gallwch ymadael ger Gorsaf Rheilffordd Caerdydd Canolog. Gofynnwch i’r gyrrwr os ydych yn ansicr. Mae tocyn sengl yn costio £5.00 a gallwch archebu hwn ar y gwasanaeth ei hun. Mae gwasanaeth bws/tren ar gael hefyd, ond mae’n ymadael un llai aml ac yn costio tua £8.00. Mae Tacsis ar gael ond byddent yn costio tua £50.00 bob ffordd.
Awgrwym Cyfleus: Os ydych yn teithio ar Ddydd Sadwrn neu Sul, nid oes angel talu ar y bws T9.

Mae Maes Awyr Bryste tua 50 milltir i ffwrdd o Barc yr Arfau. Mae’r Maes Awyr hyn yn cael ei wasanaethu gan Ryanair ac Easyjet. Mae’r ‘National Express’ yn rhedeg gwasanaeth uniongyrchol o Faes Awyr Bryste i Gaerdydd. Nid yw’r gwasanaeth hwn yn arferol, a bu rhaid archebu o flaen llaw. Y llwybr fwyaf poblogaidd o Faes Awyr Bryste yw bws, a thren. Cymerwch y bws A1 tu allan i’r terfynell i orsaf trenau ‘Temple Meads’. Gallwch archebu eich tocyn ar y wasanaeth. Yna ewch ar dren i Gaerdydd Canolog. Maent yn ymadael bob 30 munud.
Awgrym Cyfleus: Ceisiwch osgoi’r oriau trwm ym Mryste. Mae’r traffig yn araf, a gall prisiau tocynnau tren i Gaerdydd fod yn fwy drud o fewn oriau trwm. Os ydych yn cofrestru i gylchlythyr Maes Awyr Bryste, byddwch yn aml yn derbyn gostyngiad 10% ar docynnau’r bws A1.

Y Maes

Gallwch orau ddisgrifio Parc yr Arfau fel stadiwm traddodiadol sydd heb unrhyw golygion gwael. Mae’r stadiwm wedi’u rhannu i bedwar stondyn, gogledd, deheuol, gorllewin a dwyreiniol. Capasiti’r maes yw 12,500.

Mae’r stondyn gorllewinol yn cynnwys llwyfannau golygu ar gyfer cefnogwyr anabl sydd at lefel y cae, ac uwchben rhain mae yna nifer o blychau lletygarwch. Tu ol i’r stondyn hon, yw’r Afon Taf.

Mae gan y stondyn dwyreiniol ychydig o seddi ar lefel y cae, ynghyd a llwyfannau golygu ar gyfer cefnogwy anabl. Uwchben rhain mae yna hefyd blychau lletygarwch. Arwyddir y stondyn hon fel stondyn teuluol, ac mae’n cynnwys y derbynda a siop y clwb.

Mae’r stondyn Ogleddol wedi’u rhannu rhwng ardal seddi a teras. Mae’r teras yn codi o lefel y cae I fyny, a mae’r ardal seddi uwchben. Mae’r ddau ardal o dan do, a dyma lle mae cefnogwyr oddi cartref yn tueddu ymgynull. Ar rhan fwyaf o achlysurion ym Mharc yr Arfau, mae’r cefnogwyr oddi cartref yn tueddu i brynnu tocynnau ar ochr chwith y ‘hallway line’, yn nail ai’r ardal seddi neu’r teras (gwelwch isod). Mae stondynau bwyd a diod tu allan i’r stondyn. Mae toiledau ar gael hefyd.
Awgrym Cyfleus: Mae’r rhan fwyaf o Barc yr Arfau yn cymryd taliadau di-gyffwrdd yn unig.

ae’r stondyn Deheuol wedi’u rhannu rhwng seddi a teras. Mae’r teras hefyd wedi’u rhannu yn ddau ardal, am fod twnel y chwaraewyr a’r ystafelloedd newid yn rhannu’r teras. Mae’r swyddogion diogelwch yn diogelu’r fan rhwng y ddau teras. Mae toiledau a lolfeydd ar gael. O fewn y teras Deheuol (Diwedd y Taf) byddwch yn ffeindio Lolfa Brodyr Gleision Caerdydd.
Awgrym Cyfleus: Mae’r clwb yn gwerthu nifer cyfyngedig o docynnau o fewn bob rhan o’r teras er lles diogelwch. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y man cywir o’r terasau pan rydych yn archebu.

Cefnogwyr Anabl

Mae llwyfannau golygu wedi’i lleoli yn y stondynau Gorllewinol a Dwyreiniol o Barc yr Arfau. Mae gan y stondyn gorllewinol lwyfannau allannol ac o dan do. Mae gan y stondyn dwyreiniol lwyfan dan do. Mae swyddogion diogelwch hyfforddiedig ar gael i ddarparu cymorth os fydd angen.

Ar ddiwrnodau gem, mae mynediad i gefnogwyr anabl drwy Porth Gwyn Nicholls, mae’r mynediad hyn wedi’i leoli ger Westgate Street ac yn gyferbyn i Gwesty’r Angel.

Gallwch brynnu tocynnau hygyrch drwy’r swyddfa tocynnau ar 02920 302030, ymweld a www.eticketing.co.uk/cardiffblues neu drwy ymweld a’r swyddfa tocynnau yn bersonol. Gallwch hefyd ebostio’r swyddfa tocynnau ar enquiries@cardiffblues.com
Cymorth Cyfleus : Defnyddiwr Cadair-Olwyn a’i gofalwyr. Ynghyd a tocynnau i bobl sydd a diffyg golwg, mae’r tocynnau hyn ar gael am “ddau am bris un” yn y category prisio arferol.

Lolfa Brodyr Gleision Caerdydd

Ar Ddydd gem, cyn neu ar ol y gem, gallwch weld Brodyr Gleision Caerdydd yn ei lolfa, Lolfa Brodyr Gleision Caerdydd. Mae’r lolfa wedi’i leoli yn y Teras De-Orllewinol ym Mharc yr Arfau. Mae’r lolfa ar agor i bob berchennog a tocyn i’r teras deheuol cyn neu dryw gydol y gem.

Mae’r lolfa yn ardal cyfforddus i gymdeithasu a gwylio’r teledu cyn i’r prif ddigwyddiad ar y cae. Yn y dyfodol, mae Brodyr Gleision Caerdydd yn obeithiol o gynnwys peiriant gemau er mwyn i bobl ymlacio a cael hwyl cyn y gem. Mae’r lolfa wedi’i leoli nesaf i ystafell newid y tim cartref, gall awyrgylch gwych adeiladu yma cyn y gem.

Yn ystod y gem, mae’r bar a’r lolfa ar agor i unrhywun sydd yn berchen ar tocyn i’r teras deheuol i archebu sawl cwrw drafft neu diodydd medal. Byddai aelodion Brodyr Gleision Caerdydd, unwaith i’w cerdyn aelodaeth gael ei greu, yn meddu ar ostyngiad i brisiau’r bar.

Ar ol y gem, byddwnt yn dweud “Croeso” a “Welcome” i bawb sydd yn berchen ar tocyn, gall adloniant byw gael ei fwynhau ar ol y gem yn y lolfa. Bydd awyrgylch gwych yn parhau hir ar ol i’r gem orffen. Ymunwch a ni a rhannwch eich straeon i greu Cofion newydd. Rydym yn obeithiol fydd ein croeso Cymreig cynnes yn gadael argraff hir-dymor ar bobl hen ac ifanc. Byddwn yn eich croesawu fel ymwelydd i Barc yr Arfau, ond gobeithiwn eich bod yn gadael fel brodyr.
Cymorth Cyfleus: Nid yw’r bar yn derbyn arian parod; gallwch gyfnewid arian parod neu ewros am docynnau dilys oddi wrth aelod o bwyllgor Brodyr Gleision Caerdydd yn y stadiwm.

Tours oTeithiau o gwmpas Parc yr Arfau

Teithiau o gwmpas Parc yr Arfau

Bydd teithiau o Barc yr Arfau yn cael ei weithredu gan y clwb. Maent yn cymryd lle bob ail Dydd Iau am 11:30y.b ac am 2:30y.p. Mae’r daith yn para tua 75 munud ac yn costio £10.00 bob person. Cysylltwch a’r clwb am rhagor o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Os na fydd y dyddiau yn gyfleus i’ch parti, cysylltwch a Brodyr Gleision Caerdydd a byddwn yn gweld sut i ddarparu cymorth i chi.

Timau ar Daith

Ydych chi’n rhan o dim sydd yn teithio ar draws De Cymru a hoffech ymweld a Barc yr Arfau neu gwylio gem? Os byddwch, cysylltwch a ni, byddwn yn falch i’ch cwrdd a chi a rhown Groeso cynnes. Mae gennym gysylltiadau gyda niferoedd o glybiau Lleol a byddwn yn hapus i awgrymu unrhywbeth os byddwch angen unrhyw gwybodaeth lleol.

Ymweld a Chaerdydd am gem Rhyngwladol?

Os ydych, rhowch wybod i ni eich bod chi’n dod. Byddwn yn gallu awgrymu lleoliadau i chi fwynhau’r awyrgylch o ddydd gem rhyngwladol yng Nghymru. Os nad oes gennh tocyn i’r gem, ymunwch a ni. Anfonwch e-bost o flaen llaw a byddwn yn rhoi gwybod i chi ble byddant yn gwylio’r gem.

Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd

Ble I ddechrau?! Drws nesaf i Barc yr Arfau yw stadiwm chwaraeon gorau’r byd (yn ddadleuol), a gyferbyn i Gastell eiconig Caerdydd. Dim ots pa adeg o’r flwyddyn byddwch yn ymweld, mae yna o hyd bethau i’w gwneud ac i weld. Mae gan Caerdydd rhywbeth at ddant pawb; Natur, Hanes, Siopa, Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Chadwraeth. Os byddwch angen trefnwr teithiau arnoch yn ystod eich ymweliad, rhowch wybod. Fel arall, mae rhagor o wybodaeth am Ddinas Caerdydd a beth sydd ar gael yma: https://www.visitcardiff.com

Cysylltwch a ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynnau ynglun a’r cyfarwyddion, neu os hoffwch chi gysylltu a ni, byddwn yn eu chroesawu. Ein cyfeiriad ebost yw secretary@cardiffblues.com.
Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu i Barc yr Arfau.

This Page is Available in the Languages Below